SWYDDOG CYFEILLIO


Dyddiad cau: 12pm, dydd Gwener 7 Awst 2026

CYFLOG

£13,621.38 yn flynyddol


Hyd y contract - Cyfnod penodol tan ddiwedd mis Mawrth 2027 (swydd gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth)

ORIAU

20 awr yr wythnos (dros 3 diwrnod; yn cynnwys boreau Gwener)

LLEOLIAD

Cynon Linc, Aberdare, CF44 7BD, a
Chymuned



ADRODDIADAU I


Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr 

YN GYFRIFOL AM


Gwirfoddolwyr

DULL Y CAIS


Cais Ar-lein

Amdanom Ni

Mae Age Connects Morgannwg yn elusen sy'n cefnogi pobl hŷn ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Rydym yn darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor a gwasanaethau i helpu pobl i aros yn annibynnol, yn ddiogel ac mewn cysylltiad cyn hired ag sydd bosibl. Mae ein tîm ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau gan gynnwys cymorth dementia, gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty, torri ewinedd, gwybodaeth a chyngor, cyfeillio, ac rydym hefyd yn rhedeg canolfan gymunedol fywiog yn Aberdâr.

Ynglŷn â'r Swydd

Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi llawer o'r gwasanaethau a gynigir gan Age Connects Morgannwg ac maen nhw’n rhan werthfawr o'n tîm. Fel Swyddog Cyfeillio byddwch yn cymryd yr awenau wth ddarparu Prosiect Cyfeillio Ymestyn, ac ar yr un pryd byddwch yn cefnogi'r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr i ddarparu a datblygu gwirfoddoli ar draws yr elusen.

 

Cyfrifoldebau Cyffredinol 


  • Ymgorffori a datblygu Prosiect Cyfeillio Ymestyn sydd ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaeth cyfeillio wyneb yn wyneb ac ar y ffôn i bobl dros 50 oed sy’n teimlo’n unig yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Recriwtio, hyfforddi, cefnogi a chyd-osod gwirfoddolwyr cyfeillio ar gyfer lleoliadau 12 wythnos.
  • Prosesu atgyfeiriadau cyfeillio er mwyn asesu anghenion cleientiaid, cwblhau cynlluniau cymorth ac asesiadau risg, ac arwain gwirfoddolwyr i osod nodau lles cyraeddadwy gyda'r cleient a neilltuwyd iddynt.
  • Cyfathrebu'n aml â gwirfoddolwyr Ymestyn i sicrhau eu bod yn fodlon, yn cael eu cefnogi ac mewn sefyllfa sy’n addas ar eu cyfer gan gynnwys sicrhau sesiynau cymorth a goruchwylio ar gyfer gwirfoddolwyr ac adolygiadau gwasanaeth i gleientiaid.
  • Casglu, mewnbynnu a dadansoddi data Ymestyn (ansoddol a meintiol) ar gyfer cleientiaid a gwirfoddolwyr trwy ein cronfa ddata CRM ar gyfer adroddiadau cyllido a chefnogi datblygiadau gweithredol yn ôl y gofyn ar draws yr elusen. Mewnbynnu data recriwtio a goruchwylio gwirfoddolwyr yn rheolaidd, gan gynnwys prosesu ceisiadau DBS pan fo hynny'n briodol.
  • Cefnogi'r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr yn y gwaith o drefnu a goruchwylio timau o wirfoddolwyr sy'n cynnal digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys y Bore Coffi wythnosol yn Cynon Linc a digwyddiadau ad-hoc eraill yn ôl yr angen.


Mae trwydded yrru lawn, lân a mynediad at gerbyd sydd wedi'i yswirio'n addas at ddibenion gwaith yn ofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon.


Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd llawn isod.

Pam Gweithio I Ni?

  • Cyflogwr sy'n gyfeillgar i deuluoedd
  • Lwfans milltiroedd
  • Discount at Cynon Linc
  • Mynediad at gyngor ariannol annibynnol
  • Cynllun lles yn y gweithle
  • Rhaglen cymorth i weithwyr
LAWR LWYTHO DISGRIFIAD SWYDD

Yn barod i wneud cais?

Am unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Busnes yn recruit@acmorgannwg.org.uk.

Am wybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk a www.cynonlinc.org.uk.

Ffurflen Gais

CLICIO I YMCHWNEGU

I wneud cais, cwblhewch ein Ffurflen Gais Ar-lein neu, fel arall, cyflwynwch y Ffurflen Gais a'r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi'u cwblhau (sydd ar gael i'w lawrlwytho yma), ynghyd ag esboniad o sut rydych chi'n bodloni manyleb y person, i recruit@acmorgannwg.org.uk gan nodi teitl y swydd yn llinell bwnc yr e-bost.


Fel arall, gallwch gyflwyno eich pecyn cais drwy'r post i:

Tîm Cymorth Busnes

Age Connects Morgannwg

Cynon Linc

Stryd Seymour

Aberdare

CF44 7BD