Gall cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn wneud byd o wahaniaeth.
DIWEDDARU FWY
Sut Rydym yn Helpu
Gall cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn wneud byd o wahaniaeth. Rydym yn cynnig ystod eang o wybodaeth, cyngor a gwasanaethau i helpu pobl hŷn aros yn fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd ag y bo modd. Mae ein hamrywiaeth o wasanaethau wedi cael eu cynllunio i'ch rhoi chi yn gyntaf a gwneud bywyd mor hawdd â phosibl. Mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol a chyfrinachol ar amrywiaeth o faterion megis gofal, y gyfraith, iechyd, tai, incwm a budd-daliadau, hamdden, dysgu a gwaith.
Cliciwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig.
Gwybodaeth a Chyngor
Gwasanaeth cyfrinachol ac annibynnol sy'n cynnig ystod eang o wybodaeth a chyngor i helpu pobl i aros yn annibynnol, yn eu cartref eu hunain ac i wneud y mwyaf o'u hincwm
Mae ein Tîm Gweithiwr Cefnogi yn darparu cefnogaeth un i un i bobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd byw yn annibynnol. Gall hyn fod yn dilyn profedigaeth neu yn dilyn diagnosis megis dementia
Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol yno i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i siarad i fyny ac i herio'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am eu bywydau.
Mae cynllun Ymestyn yn cefnogi pobl hŷn 50+ oed yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phenybont-ar-Ogwr, sydd wedi eu hynysu yn gymdeithasol, neu'n unig yn emosiynol, ac i'w cefnogi i gynnal ffordd o fyw iach ac annibynnol.
Ydych chi neu rywun rydych yn nabod yn cael hi’n anodd torri eu hewinedd traed neu ddwylo eu hunain? Peidiwch â phoeni, mae help wrth law gyda'n gwasanaeth torri ewinedd fforddiadwy.
Mae’r Fforymau Pumdeg Plus yn grŵp annibynnol o bobl dros hanner cant sy’n cwrdd i drafod materion sy'n effeithio ar fywydau pobl hŷn yn yr ardal lleol. Yn y cyfarfodydd ceir y ddadl ddiddorol a chyffrous am ystod eang o faterion.