BARISTA CAFFI'R HYB
Dyddiad cau: 12pm, dydd Iau, 7 Mai 2026
CYFLOG
£12.75 yr awr
ORIAU
15 awr yr wythnos
Contract parhaol
LLEOLIAD
Cynon Linc
Aberdare, CF44 7BD
ATEBOL I'R
Rheolwr Lletygarwch
YN GYFRIFOL AM
ddim yn berthnasol
DULL Y CAIS
Cais Ar-lein
Amdanom Ni
Age Connects Morganwg yw'r elusen flaenllaw sy'n gweithio gyda phobl hŷn sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful (ôl troed Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morganwg). Mae gennym hanes cryf gyda dros 45 mlynedd o gefnogi pobl hŷn a'u teuluoedd trwy rai o'r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gennym hefyd hanes profedig o wrando ar bobl hŷn, dysgu beth sy'n bwysig iddyn nhw a gofalu am y ffordd maen nhw'n cael eu trin, eu canfod a'u portreadu.
Ynglyn â'r Swydd
Fel aelod o dîm arlwyo bychan, bydd y rôl hon yn sicrhau fod pob un o gwsmeriaid Caffi a Siop Goffi’r Hyb yn cael profiad cadarnhaol ac y byddant eisiau dychwelyd dro ar ôl tro. O dan gyfarwyddyd y Prif Gogydd, bydd y rôl hon yn helpu i baratoi bwyd yn y gegin ac yn sicrhau gweithrediad cyflym Caffi a Siop Goffi’r Hyb ac ar yr un pryd yn cynnal lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid, glendid a gwasanaeth.
Fel rhan greiddiol o'r Tîm Arlwyo, mae agwedd gyfeillgar, gynnes a chroesawgar yn hanfodol.
Bydd y swydd yn cynnwys tair elfen:
Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Canolbwyntio’n glir ar y cwsmer, mynd ati’n rhagweithiol i ddatblygu a chynnal safonau uchel o ofal cwsmeriaid.
- Cymryd archebion a gwneud awgrymiadau pan fydd hynny’n cael ei werthfawrogi, gan gyflwyno prydau newydd neu fwydydd arbennig, ac ar yr un pryd rhoi sylw i unrhyw ofynion arbennig sydd gan y cwsmeriaid.
- Gofalu bod Caffi a Siop Goffi’r Hyb yn cydymffurfio â'r safonau uchaf posibl o ran diogelwch, glendid, ansawdd a safonau perfformiad.
Gweithredol
- Bod yn hyderus wrth gynhyrchu bwyd a lluniaeth o ansawdd uchel
- Prosesu taliadau a wneir gyda cherdyn ac arian parod, gan ddelio ag ymholiadau ariannol ac ar yr un pryd bod yn hyderus i gyfrif arian parod a chysoni ar ddiwedd y dydd.
- Gofalu bod yr Hyb yn bodloni'r holl safonau Sicrwydd Ansawdd sydd eu hangen i sefydlu a chynnal sgôr Safon Bwyd o 5.
Glendid a hylendid
- Glanhau a sterileiddio topiau’r cownteri, waliau a lloriau’r gegin, poptai, ffyrnau, griliau a sinciau yn unol â’r amserlen ddyddiol, wythnosol a misol.
- Glanhau'r cownter blaen unwaith y bydd wedi cau er mwyn sicrhau ei fod yn barod ar gyfer y diwrnod canlynol
Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd llawn isod.
Pam Gweithio I Ni?
- Cyflogwr sy'n gyfeillgar i deuluoedd
- Lwfans milltiroedd
- Discount at Cynon Linc
- Mynediad at gyngor ariannol annibynnol
- Cynllun lles yn y gweithle
- Rhaglen cymorth i weithwyr
Yn barod i wneud cais?
Am unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Busnes yn recruit@acmorgannwg.org.uk.
Am wybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk a www.cynonlinc.org.uk.
Ffurflen Gais
I wneud cais, cwblhewch ein Ffurflen Gais Ar-lein neu, fel arall, cyflwynwch y Ffurflen Gais a'r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi'u cwblhau (sydd ar gael i'w lawrlwytho yma), ynghyd ag esboniad o sut rydych chi'n bodloni manyleb y person, i recruit@acmorgannwg.org.uk gan nodi teitl y swydd yn llinell bwnc yr e-bost.
Fel arall, gallwch gyflwyno eich pecyn cais drwy'r post i:
Tîm Cymorth Busnes
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Stryd Seymour
Aberdare
CF44 7BD
