Swyddi

Am Age Connects Morgannwg

Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn cael y bobl orau ar ein tîm fel y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau i bobl hŷn. Am eich angerdd, gonestrwydd, gwaith caled ac ymroddiad, gallwn gynnig cyflog cystadleuol a chynllun salwch uwch. Byddwch yn elwa o'r cynllun pensiwn gweithle SMART a chael cyngor am ddim gan ein tîm o ymgynghorwyr Materion Arian am gynllunio ar gyfer eich dyfodol.


Mae'n bwysig i ni fod ein staff yn cyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, felly mae gennym gwyliau blynyddol hael o hyd at 30 diwrnod yn ychwanegol i wyliau banc DU A HEFYD ein Booster Penblwydd yn golygu eich bod yn cael cymryd amser i chi eich hun pan rydych ei eisiau a sicrhau fyddwch o hyd yn cael y diwrnod i ffwrdd ar eich pen-blwydd!


Ein pobl yw ein hased mwyaf felly rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle iddynt i fod yn rhan o lunio a thyfu'r elusen. Mae ein Fforwm Staff yn ffordd wych o gymryd rhan yn y ffordd y mae'r sefydliad yn datblygu ac mae ein Diwrnodau Datblygu Staff drwy gydol y flwyddyn yn rhoi cylfe i pawb i ddal lan, rhannu syniadau a chael hwyl yr elusen!


Gall y gwaith rydym yn ei wneud fod yn galed ond mae’r boddhad yn anhygoel. Mae gennym gwasanaeth cynghori rhad ac am ddim i gefnogi ein staff i weithio drwy unrhyw cyfnod anodd fel y gallant barhau i gefnogi rhai o'r o bobl tlotaf, fwyaf agored i niwed, ac ynysig hŷn yn ein cymunedau.


Mae Age Connects Morgannwg yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob sector o'r gymuned. 

Swyddi Gwag Cyfredol


I gael mwy o wybodaeth am ein swyddi gwag cyfredol, cliciwch y botwm Apply Now.

Share by: