£11.66 yr awr
Achlysurol
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
Age Connects Morgannwg yw teitl gweithredol Age Concern Morgannwg, elusen ar gyfer pobl hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont Ar Ogwr a Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i gael yr help y mae pobl hŷn eisiau, pan fyddant ei angen. Rydym yn gweithio i sicrhau bod y rhai sy’n agored i niwed ac sydd mewn perygl yn cael eu cadw’n ddiogel. Rydym yn grymuso pobl hŷn i gael eu clywed, i gael dewis a rheolaeth, fel nad ydynt yn teimlo’n ynysig neu’n gwahaniaethu yn eu herbyn a’u bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae ein gwaith yn cael ei yrru gan yr hyn mae pobl hŷn yn dweud wrthym sy’n bwysicaf iddynt ac mae eu lleisiau’n wrth galon popeth a wnawn.
Dyma rôl newydd a fydd yn rhan o dîm newydd cyffrous a fydd yn sicrhau fod pob un o gwsmeriaid Caffi a Siop Goffi’r Ganolfan yn cael profiad cadarnhaol ac y byddant eisiau dychwelyd dro ar ôl tro. O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Lletygarwch / Cogydd bydd y rôl hon yn helpu i baratoi bwyd yn y gegin i sicrhau bod Caffi a Siop Goffi’r Ganolfan yn gweithredu'n gyflym ac ar yr un pryd yn cynnal lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid, glendid, a gwasanaeth.
Fel rhan greiddiol o'r Criw Arlwyo mae bod yn gwrtais, clên a chroesawus yn hanfodol.
Bydd y swydd yn cynnwys dwy elfen:
Gweithredol
Cynorthwyo'r Cogyddion i gynhyrchu bwyd a lluniaeth o safon uchel.
Prosesu taliadau a wneir gyda cherdyn ac arian parod, gan ddelio ag ymholiadau ariannol a bod yn hyderus i gyfrif arian parod a chysoni ar ddiwedd y dydd.
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Canolbwyntio’n glir ar y cwsmer, mynd ati’n rhagweithiol i ddatblygu a chynnal safonau uchel o ofal cwsmeriaid.
Cymryd archebion a gwneud awgrymiadau pan fydd hynny’n cael ei werthfawrogi, cyflwyno prydau newydd neu fwydydd arbennig, ac ar yr un pryd rhoi sylw i unrhyw ofynion arbennig sydd gan y cwsmeriaid.
DISGRIFIAD SWYDD LLAWN
Gwnewch gais uchod. Neu, anfonwch eich cyflwyno'ch
cais at ebostio recruit@acmorgannwg.org.uk neu drwy’ post Tîm Cymorth Busnes Age Connects Morgannwg, Cynon Linc, Seymour Street, Aberdâr, CF44 7BD. I wneud cais, cyflwynwch Ffurflen Cyfle Cyfartal.
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdare
CF44 7BD
T: 01443 490650
F: 01443 490879
E: information@acmorgannwg.org.uk