CYDGYSYLLTYDD PROSIECT SEIBIANNAU BYR
Dyddiad cau: 10am ddydd Mercher, 25 Tachwedd 2026
CYFLOG
£25,377.56 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn (pro rata am 28 awr)
Contract - cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2029
ORIAU
28 awr yr wythnos
LLEOLIAD
Cynon Linc, Aberdare, CF44 7BDgyda gwaith darparu yn y gymuned ledled RCT
YN ATEB I
Arweinydd Hyb Cymunedol
YN GYFRIFOL AM
DULL GWNEUD CAIS
Cais Ar-lein
Amdanom Ni
Mae Age Connects Morgannwg (ACM) yn elusen sefydledig sy'n cefnogi pobl hŷn a chymunedau ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae ein gwasanaethau yn hyrwyddo annibyniaeth, yn lleihau unigrwydd ac yn gwella lles, gan helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.
Mae ein gwasanaethau'n cynnwys Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, lles a gweithgareddau cymdeithasol, gwirfoddoli, cynhwysiant digidol a chymorth yn y gymuned. Mae Cynon Linc, ein hwb cymunedol yn Aberdâr, yn ganolfan groesawgar lle gall pobl gael gafael ar gymorth, meithrin cysylltiadau a chael gwybod am wasanaethau ehangach ACM.
Drwy brosiect y Gronfa Cymorth i Ofalwyr, bydd ACM yn darparu cymorth lles ariannol wedi'i dargedu i ofalwyr di-dâl yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y gwasanaeth yn helpu gofalwyr i gael cyngor, gwneud y mwyaf o incwm, rheoli pwysau ariannol uniongyrchol a dod o hyd i ragor o gymorth pan fo angen.
Am y Swydd
Diben y Swydd
Bydd Cydgysylltydd Prosiect Seibiannau Byr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu Cynon Linc fel canolfan gydnabyddedig i ofalwyr ar draws Rhondda Cynon Taf, gan ddarparu cyfleoedd hyblyg ac ataliol sy'n caniatáu i ofalwyr di-dâl gael mynediad at gyfnodau o orffwys, adferiad, ailgysylltu a chymorth.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu, cydlynu, cyflwyno, gweinyddu, monitro ac adrodd ar y Prosiect Seibiannau Byr. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu ystod o gyfleoedd seibiannau byr gan gynnwys gweithgareddau therapiwtig, sesiynau cymorth gan gymheiriaid, gweithgareddau lles, gwibdeithiau, grantiau unigol a chyfleoedd seibiant eraill sy'n cefnogi iechyd a lles gofalwyr.
Bydd y rôl yn nodi ac yn ymgysylltu â gofalwyr di-dâl, yn enwedig gofalwyr hŷn, gofalwyr sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys gofalwyr gwrywaidd, gofalwyr LGBTQ+ a gofalwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â phartneriaid er mwyn cynyddu mynediad at ddarpariaeth seibiannau byr o safon uchel a sicrhau bod gofalwyr yn derbyn gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth briodol i'w cynnal yn eu rolau gofalu.
Prif gyfrifoldebau
Datblygu Prosiectau a Marchnata
- Datblygu a chyflwyno gweithgareddau sy'n codi ymwybyddiaeth o Brosiect Seibiannau Byr a gwasanaethau cymorth ehangach i ofalwyr ledled Rhondda Cynon Taf.
- Mynd ati’n i nodi, ymgysylltu a chefnogi gofalwyr di-dâl, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth perthnasol
- Datblygu dulliau ymgysylltu wedi'u targedu ar gyfer gofalwyr a allai fod yn llai tebygol o gael gafael ar gymorth, gan gynnwys gofalwyr hŷn, gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr gwrywaidd, gofalwyr LGBTQ+ a gofalwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol.
Cyflwyno a Chydlynu’r Prosiect
- Cydlynu a chyflwyno rhaglen o gyfleoedd seibiant byr sy'n cefnogi lles, gwytnwch ac ansawdd bywyd gofalwyr.
- Trefnu a hwyluso gweithgareddau therapiwtig, grwpiau cymorth gan gymheiriaid, sesiynau lles, cyfleoedd cymdeithasol, gwibdeithiau a gweithgareddau seibiant byr eraill.
- Cydlynu seibiannau byr unigol a chyfleoedd a ariennir gan grantiau yn unol ag amcanion y prosiect a gofynion cyllido.
Gweinyddu a Datblygu Grantiau Seibiannau Byr
- Cydlynu gweinyddu grantiau unigol a mentrau seibiant byr yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a gofynion cyllido y cytunwyd arnynt.
- Cefnogi gofalwyr drwy gydol y broses ymgeisio a sicrhau mynediad amserol at gyfleoedd ariannu.
- Cadw cofnodion manwl gywir sy'n ymwneud â cheisiadau am grantiau, cymeradwyaethau, monitro a chanlyniadau.
Rheoli Cyllideb ac Adrodd
- Gweinyddu a monitro cyllideb y Prosiect Seibiannau Byr yn unol â gofynion sefydliadol a gofynion y cyllidwyr.
- Cynnal cofnodion ariannol cywir a systemau olrhain gwariant.
- Cynhyrchu adroddiadau amserol ar weithgaredd, perfformiad, allbynnau a chanlyniadau’r prosiect.
Gweithio mewn partneriaeth
- Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol â sefydliadau gwirfoddol, statudol, iechyd a gofal cymdeithasol.
- Datblygu llwybrau atgyfeirio gyda gwasanaethau iechyd, timau gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymorth dementia, gwasanaethau gofal sylfaenol a sefydliadau cymunedol i wella mynediad i'r prosiect.
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid atgyfeirio gan gynnwys gwasanaethau iechyd, timau gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymorth dementia a sefydliadau cymunedol.
Cymorth i Ofalwyr a Gwaith Gweinyddu
- Cefnogi sgyrsiau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda gofalwyr er mwyn nodi anghenion unigol, nodau lles a chyfleoedd ar gyfer seibiannau byr.
- Cefnogi sgyrsiau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda gofalwyr i nodi anghenion unigol a chyfleoedd ar gyfer seibiannau byr.
- Sicrhau bod cyfleoedd seibiant byr yn cael eu hystyried yn rheolaidd o fewn prosesau cynllunio cymorth ACM.
Diogelu, rheoli risg a chydymffurfiaeth
- Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau diogelu, iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, GDPR a pholisïau sefydliadol bob amser.
- Cydlynu a chynnal asesiadau risg gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer holl weithgareddau prosiect a chyfleoedd seibiannau byr.
- Nodi ac ymateb yn briodol i bryderon diogelu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol.
Mae trwydded yrru lawn a glân a mynediad at gerbyd sydd wedi’i yswirio’n briodol at ddibenion gwaith yn ofynion hanfodol ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd llawn isod.
Pam Gweithio i Ni?
- Cyflogwr sy’n ystyriol o deuluoedd
- Lwfans milltiroedd
- Gostyngiad yn Cynon Linc
- Mynediad at gyngor ariannol annibynnol
- Cynllun llesiant yn y gweithle
- Rhaglen cymorth i weithwyr
Yn barod i wneud cais?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â Business Support Team drwy recruit@acmorgannwg.org.uk.
I gael gwybodaeth gyffredinol am waith Age Connects Morgannwg, ewch i www.ageconnectsmorgannwg.org.uk a www.cynonlinc.org.uk.
Ffurflen Gais
I wneud cais, cwblhewch ein Ffurflen Gais Ar-lein neu, fel arall, cyflwynwch y Ffurflen Gais a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi’u cwblhau (ar gael i’w lawrlwytho yma), ynghyd ag esboniad o sut rydych yn bodloni’r fanyleb person, i recruit@acmorgannwg.org.uk gan nodi teitl y swydd yn llinell pwnc yr e-bost.
Fel arall, gallwch anfon eich pecyn cais drwy’r post at:
Business Support Team
Age Connects Morgannwg
Cynon Linc
Seymour Street
Aberdâr
CF44 7BD
